Datganiad hygyrchedd ar gyfer Dywedwch Wrthym Unwaith

Mae'r gwasanaeth hwn yn rhan o wefan ehangach GOV.UK. Mae datganiad hygyrchedd ar wahân ar gyfer prif wefan GOV.UK.

Dim ond i'r gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith y mae'r datganiad hwn yn berthnasol, sydd ar gael ar https://tell-us-someone-died.dwp.gov.uk.

Defnyddio'r gwasanaeth hwn

Mae’r gwasanaeth hwn yn cael ei redeg gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP). Rydym am i gymaint o bobl ȃ phosibl allu defnyddio’r gwasanaeth hwn. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbynnu a ffontiau
  • chwyddo mewn i hyd at 300% heb i’r testun ollwng oddi ar y sgrin
  • mynd o ddechrau’r gwasanaeth i’r diwedd gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • mynd o ddechrau’r gwasanaeth i’r diwedd gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y gwasanaeth gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi gwneud y testun yn y gwasanaeth mor syml ȃ phosibl i’w ddeall.

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn hawdd i’w defnyddio os oes gennych anabledd.

Pa mor hygyrch yw'r wefan hon

Gwyddom nad yw rhai rhannau o'r wefan hon yn gwbl hygyrch:

  • nid yw'r rhybudd am amser y sesiwn yn dod i ben yn gweithio fel y disgwylir
  • nid yw'r Gymraeg bob amser yn cael ei chyfieithu
  • nid yw tirnodau (sy'n helpu i nodi strwythur tudalen we mewn cod) bob amser yn cael eu hadnabod yn gywir
  • gall rhai dolenni fod yn anodd i ddefnyddwyr adnabod llais eu cyrchu
  • mae testun gweledol ar goll o rai dolenni
  • mae rhai dolenni'n pwyntio at gynnwys gwahanol i'r disgwyl o'r testun yn y ddolen
  • nid yw'n glir i ble mae rhai dolenni'n mynd yn seiliedig ar destun y ddolen neu gynnwys cysylltiedig agos
  • mae arddulliau ffocws ar goll o rai dolenni felly maent yn anodd eu gweld gyda bysellfwrdd
  • nid yw rhai botymau'n cyflawni'r weithred a fwriadwyd pan gânt eu defnyddio gyda bysellfwrdd
  • nid yw hierarchaeth penawdau bob amser yn gywir a gall arwain at ddarllen cynnwys yn anghywir
  • nid yw penawdau bob amser yn cael eu hadnabod yn gywir ar gyfer rhaglenni darllen sgrin
  • nid yw rhai meysydd wedi'u labelu
  • nid yw rhai labeli'n disgrifio'n glir yr hyn a ofynnir amdano
  • nid yw bob amser yn glir pryd mae cwestiwn yn ofynnol neu'n ddewisol
  • nid yw'r berthynas rhwng meysydd bob amser yn cael ei nodi
  • nid yw negeseuon gwall a gwybodaeth fformat bob amser yn cael eu cyhoeddi gan raglenni darllen sgrin pan fydd meysydd wedi'u ffocysu
  • weithiau mae cwestiynau'n gofyn am wybodaeth sydd eisoes wedi'i darparu
  • nid yw'r holl wybodaeth a gofnodwyd ar gael i'w hadolygu cyn ei chyflwyno
  • mae rhywfaint o gynnwys yn cael ei dorri i ffwrdd pan gaiff y dudalen ei chwyddo i mewn neu ei gweld ar ddyfeisiau llai
  • mae'r faner cwci yn cuddio cyflwr y ffocws yn y troedyn
  • nid yw bob amser yn glir sut i adfer o negeseuon gwall
  • nid yw gwallau bob amser yn cael eu nodi'n gywir
  • ni ellir pennu pwrpas meysydd sy'n casglu gwybodaeth bersonol o'r cod
  • ni chaiff newidiadau i gynnwys y dudalen eu cyfleu i ddefnyddwyr raglenni darllen sgrin

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os ydych yn cael problemau defnyddio’r gwasanaeth hwn, cysylltwch â ni:

E-bost: tellusonce.communications@dwp.gov.uk

Ffôn: 0800 085 7308

Relay UK(os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 then 0800 085 7308 Iaith Arwyddion Prydain (BSL) Gwasanaeth Video Relay os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu lechen

Dydd Llun i ddydd Gwener 8:00am i 6:00pm (ac eithrio gwyliau cyhoeddus)

Adrodd am broblemau hygyrchedd gyda'r wefan hon

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y gwasanaeth hwn. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n meddwl nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, gallwch roi gwybod am broblem hygyrchedd.

Gweithdrefn orfodi

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi’r Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Meddalweddau Symudol) (Rhif. 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’).

Os nad ydych yn fodlon gydag ein hymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r:

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau wedi ymrwymo i wneud y gwasanaeth hwn yn hygyrch, yn unol â’r Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Meddalweddau Symudol) (Rhif. 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae'r wefan wedi'i phrofi yn erbyn safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) fersiwn 2.2.

Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) fersiwn 2.2, oherwydd y diffyg cydymffurfio a restrir isod.

Cynnwys nad yw’n hygyrch

Nid yw'r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.

Diffyg cydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd

  • Nid yw'r swyddogaeth i ymestyn amser y sesiwn bob amser yn cael ei chyflwyno, a phan fydd, nid yw bob amser yn gweithio. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 4.1.2 (Enw, Rôl, Gwerth) a 2.2.1 (Amseru Addasadwy) WCAG 2.2.
  • Dangosir sawl iaith ar dudalen ond nid ydynt wedi'u nodi'n gywir yn y cod. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 3.1.2 (Iaith Rhannau) WCAG 2.2.
  • Mae rhai tirnodau (sy'n helpu i adnabod strwythur tudalen we mewn cod) yn colli rolau cywir neu enwau hygyrch. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 4.1.2 WCAG 2.2 (Enw, Rôl, Gwerth).
  • Nid yw rhai dolenni'n cynnwys y testun gweledol yn yr enw hygyrch. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 2.5.3 WCAG 2.2 (Label yn yr Enw).
  • Nid oes enw hygyrch gan rai dolenni. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 4.1.2 WCAG 2.2 (Enw, Rôl, Gwerth).
  • Mae rhai dolenni'n pwyntio at gynnwys gwahanol i'r disgwyl o'r testun yn y ddolen. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 2.4.4 WCAG 2.2 (Diben y Ddolen (Mewn Cyd-destun)).
  • Nid yw pwrpas rhai dolenni'n glir o'u cyd-destun uniongyrchol. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 2.4.4 WCAG 2.2 (Diben y Ddolen (Mewn Cyd-destun)).
  • Mae rhai dolenni yn colli arddulliau ffocws gweladwy. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 2.4.7 WCAG 2.2 (Ffocws Gweladwy).
  • Mae rhai botymau'n gweithredu botymau anghysylltiedig pan gânt eu defnyddio gyda bysellfwrdd. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 2.1.1 (Bysellfwrdd), 2.4.4 (Diben y Ddolen (Mewn Cyd-destun)) a 3.3.4 (Atal Gwallau (Cyfreithiol, Ariannol, Data)) WCAG 2.2.
  • Nid yw hierarchaeth penawdau bob amser yn gywir a gall arwain at ddarllen cynnwys yn anghywir. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 1.3.1 (Gwybodaeth a Pherthnasoedd) WCAG 2.2.
  • Cyflwynir cynnwys yn weledol ac yn gyd-destunol fel penawdau ond mae'r wybodaeth semantig ar goll. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 1.3.1 (Gwybodaeth a Pherthnasoedd) WCAG 2.2.
  • Nid yw rhai meysydd wedi'u labelu. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 3.3.2 (Labeli neu Gyfarwyddiadau) a 4.1.2 (Enw, Rôl, Gwerth) WCAG 2.2.
  • Nid yw rhai labeli yn disgrifio'n glir yr hyn a ofynnir amdano. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 2.4.6 (Penawdau a Labeli) WCAG 2.2.
  • Nid yw bob amser yn glir pryd mae cwestiwn yn ofynnol neu'n ddewisol. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 3.3.2 WCAG 2.2 (Labeli neu Gyfarwyddiadau).
  • Nid yw'r berthynas rhwng meysydd bob amser yn cael ei nodi. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 1.3.1 WCAG 2.2 (Gwybodaeth a Pherthnasoedd).
  • Mae negeseuon gwall a chyfarwyddiadau fformat yn gysylltiedig yn weledol â meysydd ond nid ydynt yn gysylltiedig yn rhaglennol yn y cod. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 1.3.1 WCAG 2.2 (Gwybodaeth a Pherthnasoedd).
  • Weithiau mae cwestiynau'n gofyn am wybodaeth sydd eisoes wedi'i darparu. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 3.3.7 WCAG 2.2 (Cofnod Diangen).
  • Nid yw'r holl wybodaeth a gofnodwyd ar gael i'w hadolygu cyn ei chyflwyno. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 3.3.4 WCAG 2.2 (Atal Gwallau (Cyfreithiol, Ariannol, Data)).
  • Mae rhywfaint o gynnwys yn cael ei dorri i ffwrdd pan gaiff y dudalen ei chwyddo neu ei gweld ar ddyfeisiau llai. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 1.4.10 (Ail-lifo) WCAG 2.2.
  • Mae baner y cwci yn cuddio cyflwr y ffocws yn y troedyn. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 2.4.11 WCAG 2.2 (Ffocws Heb ei Guddio (Isafswm)).
  • Nid yw bob amser yn glir sut i adfer o negeseuon gwall. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 3.3.3 WCAG 2.2 (Awgrym Gwall).
  • Nid yw gwallau bob amser yn gysylltiedig yn gywir â'r maes y maent yn ymwneud ag ef. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 3.3.1 WCAG 2.2 (Adnabod Gwall).
  • Ni ellir pennu pwrpas meysydd sy'n casglu gwybodaeth bersonol o'r cod. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 1.3.5 WCAG 2.2 (Adnabod Diben Mewnbwn).
  • Ni chaiff newidiadau deinamig i gynnwys tudalen eu cyfleu ac mae angen i'r defnyddiwr symud ffocws i’w darganfod. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 4.1.3 WCAG 2.2 (Negeseuon Statws).

Rydym yn bwriadu trwsio'r problemau hyn erbyn 6 Ebrill 2027.

Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd

Ein nod yw cydymffurfio'n llawn â safon AA WCAG 2.2 erbyn 6 Ebrill 2027. Byddwn yn parhau i iteru dyluniad y gwasanaeth a pharhau i brofi'r gwasanaeth yn erbyn safon AA WCAG 2.2.

Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 29 Hydref 2024. Fe'i hadolygwyd diwethaf ar 25 Chwefror 2026.

Profwyd y gwasanaeth hwn ddiwethaf ym mis Ionawr 2026 yn erbyn safon AA WCAG 2.2. Cynhaliwyd y prawf gan yr Adran Gwaith a Phensiynau. Profwyd y gwasanaeth gan ddefnyddio profion awtomataidd a phrofion â llaw.