I ddefnyddio’r gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith, bydd angen y cyfeirnod a roddwyd i chi gan y cofrestrydd, ynghyd â gwybodaeth am y
person a fu farw. Gwiriwch pa wybodaeth sydd ei hangen arnoch i ddefnyddio’r gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith.
Ni fyddwch yn gallu cadw’ch atebion a dychwelyd atynt yn nes ymlaen.
Nid oes terfyn amser ar gyfer cwblhau’r gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith. Fodd bynnag, os na fyddwch yn gwneud unrhyw beth am fwy nag 20 munud,
byddwn yn dileu’ch atebion a bydd angen i chi ddechrau eto. Mae hyn er mwyn diogelu eich gwybodaeth.